User:Llwywr/sandbox/Rhyfel Chwe Niwrnod
This is not a Wikipedia article: It is an individual user's work-in-progress page, and may be incomplete and/or unreliable. For guidance on developing this draft, see Wikipedia:So you made a userspace draft. Find sources: Google (books · news · scholar · free images · WP refs) · FENS · JSTOR · TWL |
Rhyfel a ymladdwyd rhwng Israel ar y naill llaw a’r Aifft, Gwlad Iorddonen, a Syria ar y llaw arall oedd y Rhyfel Chwe Niwrnod (Hebraeg: מלחמת ששת הימים, Milhemet Sheshet Ha Yamim; Arabeg: النكسة, an-Naksah sef "Yr Ergyd"), a adwaenir hefyd fel y Trydydd Rhyfel Arabaidd-Israelaidd a Rhyfel Mehefin. Dechreuodd y rhyfel ar 5 Mehefin 1967 ar ôl i Israel ragymosod ar yr Aifft wedi i densiynau rhwng y ddwy wlad gyrraedd torbwynt. Dros gyfnod o chwe niwrnod o ymladd dwys, cipiodd Israel dir Penrhyn Sinai a Gasa oddi ar yr Aifft, Ucheldiroedd Golan oddi ar Syria, a’r Lan Orllewinol a dwyrain Caersalem oddi ar Wlad Iorddonen. Daeth y rhyfela i ben ar 10 Mehefin.
Mae canlyniadau tyngedfennol y rhyfel hwn, sy’n rhan o’r Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd ehangach, yn ddylanwad ar dirlun daearwleidyddol Israel a’r gwledydd Arabaidd cyfagos hyd heddiw. Er enghraifft, meddiannir rhai o’r tiroedd a gipiwyd gan Israel yn 1967 o hyd.
Cefndir
[edit]Ers ei sefydliad ym 1948, bu perthynas Israel â gwledydd y Cynghrair Arabaidd yn un gythryblus. Gwaethygodd y berthynas ym 1956 wedi Argyfwng Sŵes ac yn y blynyddoedd nesaf bu mân wrthdaro ar y ffin rhwng Israel a’r gwledydd Arabaidd cyfagos, yn enwedig rhwng Israel a Syria. Fis Tachwedd 1966 cytunodd yr Aifft a Syria ar gytundeb cydamddiffyn. Fis Mai 1967 derbyniodd yr Aifft gamadroddiadau gan yr Undeb Sofietaidd bod milwyr Israel yn ymfyddino ar ffin Syria. Yn dilyn hynny, ar 16 Mai dechreuodd byddin yr Aifft ym Mhenrhyn Sinai ymgasglu ar ffin Israel ac yna, ar 19 Mai, gyrru allan Llu Argyfwng y Cenhedloedd Unedig (a leolwyd yno wedi Argyfwng Sŵes). Caewyd Culfor Tiran i longau Israel gan yr Aifft ar 23 Mai, ac ystyriodd Israel hyn yn weithred ryfelgar neu’n gyfiawnhad dros ryfela. Ar 30 Mai llofnodwyd cytundeb amddiffyn rhwng yr Aifft a Gwlad Iorddonen. Drannoeth gosododd byddin Irac filwyr yng Ngwlad Iorddonen, ac yn ofidus o ganlyniad i’r dwysâd milwrol, penderfynodd Israel ar 4 Mehefin ryfela.
Y Rhyfel
[edit]Penrhyn Sinai a Gasa
[edit]Roedd gan yr Aifft awyrlu mwyaf y byddinoedd Arabaidd, yn cynnwys tua 450 o awyrennau, pob un ohonynt yn Sofietaidd ac yn newydd. Roedd eu hawyrennau bomio Tu-16, a allai beri niwed difrifol i dargedau milwrol a sifil Israel, yn destun pryder arbennig i’r Israeliaid. Fodd bynnag, roedd isadeiledd amddiffyn yr Aifft yn wan ac nid oedd ganddynt lochesau a warchodai eu hawyrennau pe bai rhyfel.
Am 7:45 fore Llun 5 Mehefin ymosododd awyrlu Israel - pob un ond deuddeg o’i 196 o awyrennau ymladd - ar feysydd glanio’r Aifft ym Mhenrhyn Sinai. Dinistriwyd tua 450 o awyrennau’r Aifft ac analluogwyd 18 o’u meysydd glanio. Rhwystrodd yr ymosodiad hwn fyddin yr Aifft rhag gweithredu o’r awyr drwy gydol y rhyfel i ddod, a rhoddodd hyn reolaeth awyrennol i Israel. Golygodd y rheolaeth lwyr hon y gallai awyrlu Israel gynorthwyo’r milwyr oedd yn ymladd ar y tir yn hawdd. Bu’r ymosodiad, a ystyrir yn un o’r cyrchoedd awyr mwyaf llwyddiannus erioed, yn un o’r rhesymau dros fuddugoliaeth lethol Israel.
Wedi’r cyrch awyr, ymosododd lluoedd Israel ar filwyr yr Aifft a leolwyd ym Mhenrhyn Sinai a Gasa. O fewn diwrnodau, roedd Israel yn rheoli rhan helaeth o’r orynys. Gwrthododd swyddogion yr Aifft roi’r gorau i’r rhyfela i gychwyn, ond wrth i luoedd Israel gyrraedd Camlas Sŵes ar 8 Mehefin, cytunwyd ar gadoediad.
Y Lan Orllewinol
[edit]Er i ddiwrnod cyntaf y rhyfel fod yn drychinebus i fyddin yr Aifft, bu darllediadau propaganda ar radio’r wlad yn cyhoeddi eu buddugoliaeth ar luoedd Israel. Gan gredu’r newyddion o du’r Aifft, dechreuodd lluoedd Gwlad Iorddonen fomio Israel ar 5 Mehefin a meddiannu canolfan y Cenhedloedd Unedig yng Nghaersalem. Fodd bynnag, wedi iddynt brofi llwyddiant ym Mhenrhyn Sinai gynt y diwrnod hwnnw, trodd rhai o awyrennau Israel tuag at Gaersalem. Llwyddodd Israel ddinistrio awyrlu Gwlad Iorddonen, ac amgylchynodd parasiwtwyr Israel Gaersalem cyn ei meddiannu’n gyfan gwbl. Erbyn 7 Mehefin, roedd Israel yn meddiannu holl dir y Lan Orllewinol. Cytunodd Israel a Gwlad Iorddonen ar gadoediad y hoson honno.
Ucheldiroedd Golan
[edit]Hyd 9 Mehefin, cyfyngwyd yr ymladd ar y ffin rhwng Israel a Syria i gyrchoedd awyr ar y ddwy ochr. Ond ar y diwrnod hwnnw, wedi i’r Israeliaid ryng-gipio telegram a awgrymodd na fyddai’r Undeb Sofietaidd yn ymyrryd, penderfynodd lluoedd Israel geisio gorchfygu Ucheldiroedd Golan, tir strategol sylweddol. Bu canlyniadau cymysg i’r ymladd ar 9 Mehefin: er i Syria ddioddef colledion mawr, cyfyngedig oedd treiddiad lluoedd Israel i dir Syria. Drannoeth, gan gofidio y gallai’r Israeliaid ymosod ar Syria drwy ddwyrain Libanus, gorchmynnwyd i filwyr Syria gilio i greu llinell amddiffyn o amgylch Damascus. Manteisiodd byddin Israel ar y cyfle i feddiannu’r gwagle a ymddangosodd yn Ucheldiroedd Golan.
16:30 (Amser Safonol Greenwich) daeth cadoediad i rym a osodwyd gan y Cenhedloedd Unedig wedi i Israel a Syria gytuno i ganiatáu i arsyllwyr y CU weithio ar ddwy ochr y frwydr, yng Nghineitra a Thiberias. Ddwy awr yn ddiweddarach, cadarnhaodd yr arsyllwyr fod y brwydro wedi dod i ben. Nododd y cadoediad hwn ddiwedd y Rhyfel Chwe Niwrnod. Lladdwyd rhwng 1,000 a 2,500 o filwyr Syria ar faes y gad, a chipiwyd rhwng 367 a 591.
Y Canlyniad
[edit]Wedi i’r brwydro ddod i ben ac i gadoediad terfynol ddod i rym, roedd Israel wedi cipio Llain Gasa, Penrhyn Sinai, Y Lan Orllewinol (gan gynnwys dwyrain Caersalem), ac Ucheldiroedd Golan. Lladdwyd rhwng 776 a 983 o Israeliaid, anafwyd 4,517, a chipiwyd 15. Adroddwyd bod rhwng 9,800 a 15,000 o filwyr yr Aifft wedi eu llad neu ar goll ar faes y gad. Cipiwyd 4,338 o filwyr yr Aifft ar ben hynny. Amcangyfrifir i 6,000 o filwyr Gwlad Iorddonen gael eu lladd neu fynd ar goll ar faes y gad, a 533 gael eu cipio.